Casgliad: Jodie Hook

Wedi astudio gradd mewn Gemwaith ac Aur/Arianwaith yn Ysgol Gemwaith Birmingham, symudodd Jodie i Lundain i ddilyn ei breuddwydion. Yno, treuliodd Jodie 7 mlynedd yn gweithio i'r dylunydd gemwaith ffasiwn Scott Wilson, lle bu'n creu casgliadau ar gyfer nifer o sioeau masnach gan gynnwys Wythnos Ffasiwn Llundain. Mae Jodie hefyd wedi creu darnau unigryw wedi'u comisiynu ar gyfer tai ffasiwn mawr a chlodfawr gan gynnwys Pringle, Swarovski, Robbie Williams a Kylie.

Yn 2008, dychwelodd Jodie i'w thref enedigol, Caerdydd, a lansio ei busnes unigol a'i chasgliad cyntaf. Dros y degawd diwethaf, mae Jodie wedi bod yn sefydlu ei hun mewn orielau a siopau ledled y DU ac yn arddangos mewn digwyddiadau dethol.

Mae dylunio yn rhan annatod o fywyd bob dydd Jodie ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu ym mhob agwedd ar ei gwaith. Yn y pen draw, mae Jodie yn ceisio creu gemwaith gwisgadwy sy'n gwneud datganiad ar y corff ac oddi arno.