Casgliad: Lucy Thompson

Aeth awydd i weithio gyda'i dwylo a brwdfrydedd mawr dros emwaith cyfoes â Lucy o radd mewn cerflunwaith i ddylunio a gwneud ei gemwaith ei hun. Mae gweadau a lliwiau cyferbyniol ochr yn ochr â ffurfiau sy'n ailadrodd yn amlwg yn ei gwaith. Mae Lucy yn cael ei denu at yr amrywiaeth eang o weadau yn y byd naturiol a'r byd a wnaed gan ddyn, ac mae'n mwynhau trosi'r ysbrydoliaeth hon yn fetel.